1. |
Storm
04:12
|
|
||
Does na’m byd yn y byd o bwys
Mai’n dawel braf yn nghalon y storm
Dwi ddim am boeni am ddryswch llwyr
Dim fi sydd wrth y llyw
Mae’r taranau yn bleoddio’n y nen
Fel rhuo llewod yn bell uwchben
Mae Morus y gwynt ac Ifan y glaw
Yn chwil ar y gwasgedd isel
Mae’r byd yn ddychrynllyd ar hyn o bryd
Ond mae’r helynt ‘ma’n gysur o fy ngwely clud
Sgenai’m mymryn o bryder; mewn cysur mae hyder
Dwi’n gyfarwydd ‘fo’r hunllef o hyd
Mae’r newydd yn hen erbyn hyn
Neith arwyr flodeuo ymysg y chwyn
Mae’r gwynt a’r glaw yn siwr o ddod yn pen draw
Ond mae’r haul yn anorfod hefyd
Does na’m byd yn y byd o bwys
Mai’n dawel braf yn nghalon y storm
Dwi ddim am boeni am ddryswch llwyr
Dim fi sydd wrth y llyw
Anghydfod y tonnau sy’n bygwth
Ceffylau mawr gwyn ar garlam rhwth
Ond mae ‘na ddigon o dîr rhwng y llanw a fi
Does na’m galw am gynnwrf na stŵr
Cau dy lygaid yn dynn
A gad dy feddylia suddo’n ddyfn
Ma’r glaw ar y gwydr yn siffrwd o gysur
Dwi’n gyfarwydd fo’r freuddwyd o hyd
Mae’r newydd yn hen erbyn hyn
Neith arwyr flodeuo ymysg y chwyn
Mae’r gwynt a’r glaw yn siwr o ddod yn pen draw
Ond mae’r haul yn anorfod hefyd
Does na’m byd yn y byd o bwys
Mai’n dawel braf yn nghalon y storm
Dwi ddim am boeni am ddryswch llwyr
Dim fi sydd wrth y llyw
|
||||
2. |
Paid a Poeni
03:24
|
|
||
Mae pob dydd 'run peth
Cael fy ngorfodi i wynebu penbleth
Cyn i'r tawelyddion gicio'i fewn
Mae'r unig ferch
Sy'n fy hudo i gyda'i swyngyfaredd
Yn troi a throsi yn fy mhen
A'r geiria ola ddwedodd hi
Oedd "paid a poeni, paid a poeni"
A'r geiria ola ddwedodd hi
Oedd "paid a poeni dim amdana i"
Does na'm llawer gwell
Na gwely clud yn ystod mellt a th'rannau
'sna ma'r storm yn dy ben
Does na'm ffordd o ffoi
Yr ysbrydion sy’n taro lawr y drysau
Na'r llais sy’n derfynol yn fy mhen
|
||||
3. |
Casanova
03:21
|
|
||
Dio’m yn hogyn hud
Dio’m yn unrhyw fath o ddewin
Benzodiazepine sy’n troi dy ddwr i mewn i wîn
Dim ei driciau
Dio’m yn slic, na
Fyddi di dal efo cleisiau
Ar dy liniau
Ond fyddi di’m yn cofio dim
Fel llew ar ôl gazelle
Mae o’n syllu yn frwdfrydig
Ti’n gyfareddol ac yn ddel
Mae o’n chwantus ac yn lwglyd
Yn trio’i orau
Gyda’i eiriau
I dy swyno di i’r laddfa
Ti’n amlwg heb ddidddordeb
Ond dio’m yn poeni dim
‘di o’m yn Gasanova, na
Chwerw yw ei chwarae
Fel ti’n llithro mewn i’r coma
Dio’m yn Gasanova
Nei di ddeffro efo cleisiau
A creithiau a haint ne ddau
O gwylia dy hun
Ma’r sglyfaeth ma’n anelu
I gael chdi ar ben dy hun
I gael chdi yn ei wely
Ac os ti’n anghytuno
Ganddo ddulliau annymunol
I gael ei ffordd ei hun
A cariad, fyddi di’m yn cofio dim
|
||||
4. |
Chwil a Chwerw
05:14
|
|
||
Am rhywun mor feddw, dwi'n andros o sobor
'di llygru fy meddwl yn gobeithio am gyngor
Ond di’r whisky’m yn ateb ‘im byd
Mae pob un arwr yn ddihiryn i rywun
A dwi mond yn arwr i fi fy hyn
Ac yn elyn i weddill y byd
Cicia fi tra dwi lawr
Yn lle cynnig cysur, cynnig llaw
Rhaid datrys y dryswch, goleuo’r tywyllwch
Ond o le ddaw’r gola heb dy gyfeillgarwch
Beth os daw’r ateb rhy hwyr?
Mae popeth ‘di newid, ond does dim yn wahanol
Mae’r lonydd yn croesi a finna yn y canol
Yn llawn ansicrwydd llwyr
|
I Fight Lions UK
I Fight Lions are a rock band hailing from the mountains of North Wales. Like many other bands, they write songs and perform
them in public places; often for applause, seldom for money.
Mae I Fight Lions yn fand roc o ardal fynyddig Eryri. Fel llawer o fandiau eraill, maent yn sgwennu caneuon a'u chwarae nhw i bobl sy weithia'n gwrando, ond yn anaml yn talu.
... more
Streaming and Download help
If you like I Fight Lions, you may also like:
Bandcamp Daily your guide to the world of Bandcamp