We’ve updated our Terms of Use to reflect our new entity name and address. You can review the changes here.
We’ve updated our Terms of Use. You can review the changes here.

Llwch Ar Yr Aelwyd

by I Fight Lions

/

about

© Recordiau Côsh Records
℗ Cyhoeddiadau Côsh Publications
Rhyddhawyd ar y cyd efo Syrcas

lyrics

Y llwch ar yr aelwyd
Yn gorchuddio y lluniau di-liw
Daliwyd profiadau, eiliadau a fu
Lle bu chwerthin â chyfeillion triw

Mae’r gwir yn treiddio i’r cof
Nid yw’r hen wên gyfarwydd fyth am ddod yn ôl

O ma ‘na rywbeth o’i le
Y gwacter yn y gadair, yr oerni lle roedd gwres
‘Di’r lle ma ddim ‘r’un fath
Unwaith yn gartref clyd, nawr yn gragen wag
‘Di’r lle ma ddim ‘r’un fath
Hebdda chdi

Llyfrau nodiadau
Llawn caneuon heb eu cwblhau
Y llenni ar gau, ond mae mymryn o haul
Yn taflu golau ‘r y llwch yn yr aer

Mae’r gwir yn treiddio i’r cof
Yn d’absenoldeb, dim ond yr atgof sydd ar ôl

O ma ‘na rywbeth o’i le
Y gwacter yn y gadair, yr oerni lle roedd gwres
‘Di’r lle ma ddim ‘r’un fath
Unwaith yn gartref clyd, nawr yn gragen wag
‘Di’r lle ma ddim ‘r’un fath
Hebdda chdi

Mae’r gwir yn treiddio’n ddyfn i’r cof
Nid yw’r hen wên gyfarwydd fyth am ddod yn ôl
Mae’r gwir yn treiddio’n ddyfn i’r cof
Yn d’absenoldeb, dim ond yr atgof sydd ar ôl

credits

released May 18, 2018
Hywel Pitts: Prif Lais a Gitar
Dan Owen: Gitar
Dan Thomas: Gitar Fas
Rhys Evans: Drymiau

Russ Hayes: Allweddellau a Synth ychwanegol

license

all rights reserved

tags

about

I Fight Lions UK

I Fight Lions are a rock band hailing from the mountains of North Wales. Like many other bands, they write songs and perform them in public places; often for applause, seldom for money.

Mae I Fight Lions yn fand roc o ardal fynyddig Eryri. Fel llawer o fandiau eraill, maent yn sgwennu caneuon a'u chwarae nhw i bobl sy weithia'n gwrando, ond yn anaml yn talu.
... more

contact / help

Contact I Fight Lions

Streaming and
Download help

Shipping and returns

Redeem code

Report this track or account

If you like I Fight Lions, you may also like: