1. |
Geiriau Iawn Ar Goll
02:35
|
|||
Cadwa’r ffydd
Ti’n siwr o ddod o hyd i’r geiria
Iawn rhyw ddydd
Yn y cyfamser, daw
Hi o hyd
I ddyn i lenwi’r gwacter, un sy’n
Bob dim ti ddim
Hyderus, hudolus, yn ffraeth a digwilydd
Ti’n oedi am rhy hir
Chei di’m cyfle gwell ‘na hyn
Dy geg yn sych
Ond dy ddwylo’n wlyb o’r chwys
Ti’n jysd sefyll yna’n stond
Fel llo
Dy geg yn llydan gorad
Ond y geiria iawn ar goll
Ei di’m yn bell
Yn pori dros rhyw lyfra’n trio
Drafftio text
Treulio oria ar ôl oria’n trio
Neud o’n well
Jysd bydda’n glên a bydda’n onast, ti ‘mond
Isho rhywbeth
Neith arwain i berthynas
Ti’n ara deg yn agor dy geg
Ti’n pwyllo wrth lunio pob brawddeg
Ond gwaetha’r modd di pob gair ddim yn aur
Gair o gyngor, paid anelu am well
Neith cynhesrwydd a gonestrwydd fynd a chdi’n bell
Dim dadansoddi Dim poeni am bob gair
|
||||
2. |
Gwefr y Gwyll
05:03
|
|||
Bora dydd Llun
Un arall llwm a llwyd
Y ‘larwm yn canu yr un hên gân o hyd
Mae’r coffi yn helpu
Ond mond am tua hanner awr
Mae o’n llusgo’i hun o’r hunog a’n rhoi croeso anobeithiol i’r wawr
Ond pan ddaw y nôs
Pan mae’r dydd yn diflannu, daw gwefr y gwyll i’w gorff
O pan ddaw y nôs
Mae’r sibrwd yn troi’n utgan, a daw’r lliwiau oll yn ôl
Pob sgwrs yn un stêl
Pob cyflafaredd yn un hên
Ond ma’i gyd-weithwyr yn estron o hyd
Mae’r dydd yn un hir
A’r cyflog yn brin
A’i feddwl ar ddyfodol gogoneddus ddaw ar derfyn dydd
Mae’r lloer yn ychwanegu lliw i’r llwyd-ddu
A’r sêr yn sirioli yn ddi-ffael
A phan mae’r haul yn machlud
Mi ddaw popeth yn iawn yn ei fyd
Mewn meddylfryd hud heb os nac oni bai
Ar hyd y nôs, ar hyd y nôs
Pan ddaw y llonder oll yn ôl
Yr hud a lledrith yma wastad yno
Pan ddaw y nôs, pan ddaw y nôs
Pan ddaw y llonder oll yn ôl
Pan ddaw y nôs, pan ddaw y nôs
Yr hud a lledrith tragwyddol
|
||||
3. |
Y Dyddiau Aur
04:51
|
|||
Mae o’n llnau’r llwch
Oddi ar hên siwt
Ma’r toriad ers tro ‘di bod allan o ffashiwn
Ond dal
Mae o’n teimlo yn cŵl
Atgofion o’r angerdd, atgofion o’r pasiwn
Mae o fymryn yn dynn rownd y canol
Ar ôl blynyddoedd hamddenol a rhydd
Mae o’n cribo ei wallt prin tryloyw i un ochr
A rhoi winc ar y dyn yn y drych
Yn dreiddgar, yn feiddgar
A chwarter canrif yn iau
Yn ôl i’r dyddiau aur
Yn chwilgar, yn lliwgar
Ymledu ei egni’n ddi-baid
Yn ôl i’r dyddiau aur
Wrth eu bodd yn ailfyw yr atgof
Mae’r cloc yn troi yn ôl ac yn ôl
Yn dreiddgar, yn feiddgar
A chwarter canrif yn iau
Yn ôl i’r dyddiau aur
Yn ôl i’r dyddiau aur
Mai’n rhoi gwên
Fach direidus i’w hun
Wrth lithro’i wisg sidan, rhoi minlliw coch llachar,
Yn ddi-ofn
Mae hi’n gynnwrf i gyd
Ei chalon yn curo ar ddwbl y sbîd
Mai’n dawnsio i’r gân ar y radio
Ei hystwyther yn gwrth-ddweud ei hoed
Mai’n teimlo yn fyw ac yn effro
Y gora’ mai ‘di teimlo erioed
|
I Fight Lions UK
I Fight Lions are a rock band hailing from the mountains of North Wales. Like many other bands, they write songs and perform
them in public places; often for applause, seldom for money.
Mae I Fight Lions yn fand roc o ardal fynyddig Eryri. Fel llawer o fandiau eraill, maent yn sgwennu caneuon a'u chwarae nhw i bobl sy weithia'n gwrando, ond yn anaml yn talu.
... more
Streaming and Download help
If you like I Fight Lions, you may also like:
Bandcamp Daily your guide to the world of Bandcamp