Adweithiau

from Be Sy'n Wir? by I Fight Lions

/

lyrics

Ti’n chwilio am gwîr yn y gwîn
Ac am gariad mewn merched drud ‘fo enwa ffug
Ond ti heb ddarganfod heddwch hyd yn hyn
‘di’r gwydraid o wenwyn wan
‘im yn llenwi’r gwacter yn dy galon gwag
Ond ma’n lleddfu’r boen am funud byr

O, mae dy hud yn
Neud y byd llawer mwy lliwgar i pawb o dy gwmpas
Ond ti’n gweld yn ddu a gwyn o hyd
‘di’r gwên ar dy wefusa heb gyrraedd dy llgada
‘r hapusrwydd yn gelwydd pur
Ond ti’m yn rheoli ‘mbyd
‘Blaw yr hyn ti’n gredu a’r hyn ti’n neud
Dim ond adweithiau ‘di meddylia ar diwedd y dydd

Ti’n chwilio am lonydd, ond
Ma ‘na ‘sbrydion sy’n sibrwd yn dy ‘menydd sy’ mond
Isio cadw chdi yn effro heno
Ti’n chwilio am ganiatad
I rhoi’r gora i’r byd mawr brawychus ‘ma
Ond does neb isio chdi adael eto

Ma dy hud yn
Neud y byd llawer mwy lliwgar i pawb o dy gwmpas
Ond ti’n gweld yn ddu a gwyn o hyd
‘di’r gwên ar dy wefusa heb gyrraedd dy llgada
‘r hapusrwydd yn gelwydd pur
Ond ti’m yn rheoli ‘mbyd
‘Blaw yr hyn ti’n gredu a’r hyn ti’n neud
Dim ond adweithiau ‘di meddylia ar ddiwedd y dydd

Ti’n chwil, ti’n chwythu d’arian ar champagne a sigárs
Ti’n chwilio am ryw gusan gan bob merch yn y bar
Ac wrth it i fynd adra yn dy dacsi i un
Pendroni pam ti’n euog ac yn beio dy hun
Ond cofia mae gan bawb broblemau, nid dim ond ti
Ti’n unig ond dim ti ydi’r unig un

Camgymryd cyffur am foddhad
Camgymryd cyffion am ryddhad
Daw hapusrwydd yn rhwydd i rai
Ond dim drwy nodwyddau

credits

from Be Sy'n Wir?, released June 15, 2018

license

all rights reserved

tags

about

I Fight Lions UK

I Fight Lions are a rock band hailing from the mountains of North Wales. Like many other bands, they write songs and perform them in public places; often for applause, seldom for money.

Mae I Fight Lions yn fand roc o ardal fynyddig Eryri. Fel llawer o fandiau eraill, maent yn sgwennu caneuon a'u chwarae nhw i bobl sy weithia'n gwrando, ond yn anaml yn talu.
... more

contact / help

Contact I Fight Lions

Streaming and
Download help

Shipping and returns

Redeem code

Report this track or account

If you like I Fight Lions, you may also like: