Calon Dan Glo

from Be Sy'n Wir? by I Fight Lions

/

lyrics

Trio bob dim, ond dal, mae’r ateb ‘r’un fath
Trio bod yn glyfar, trio bod yn graff
Ond yn amlwg fydd na’m plesio rhai
Yn amlwg fydd na’m plesio chditha chwaith

Ti ‘di dod i benderfyniad ers tro
Ti’n bengaled, ti’n ddi-droi’n-ôl
A fedrai’m dal dy sylw di
I ddangos pa mor ffôl yw hyn i gyd

Di cael hen ddigon
O gael yr un dadleuon dro ‘r ôl tro

Ti’n ddall i’r gwalla’n dy feddylia di
Be sy’n gelwydd, be sy’n wir?
Wyt ti ‘di syrffedu ar fod yn iawn o hyd?
Gad i fi dy helpu di

Trio bob dim, ond dal, mae’r ateb ‘r’un fath
‘Di chwara’n fudur, ‘di chwara hi’n saff
Ond yn amlwg, fydd na’m plesio rhai
Dwi’n pregethu i’r troëdig fwy neu lai

Ti dal i ganu o’r un llyfr emynau
Byth ddim byd newydd, mond yr hen ffefrynau
Tra ma’r byd o d’amgylch di
Yn esblygu mwy a mwy pob dydd


Di cael hen ddigon
O gael yr un dadleuon dro ‘r ôl tro

Ti’n ddall i’r gwalla’n dy feddylia di
Be sy’n gelwydd, be sy’n wir?
Wyt ti ‘di syrffedu ar fod yn iawn o hyd?
Gad i fi dy helpu di

Mi ddwedodd hi “cariad, yr angerdd yw’r allwedd i’r galon dan glo”
Ond roedd hi’sio wbath haws, eisiau calon agored rhyw gariad dros dro
Mi ddwedodd hi “cariad, yr angerdd yw’r allwedd i’r galon dan glo”
Ond eto pan rois i fy angerdd, chefais i’m byd yn ôl
Ches i’m byd yn ôl

credits

from Be Sy'n Wir?, released June 15, 2018

license

all rights reserved

tags

about

I Fight Lions UK

I Fight Lions are a rock band hailing from the mountains of North Wales. Like many other bands, they write songs and perform them in public places; often for applause, seldom for money.

Mae I Fight Lions yn fand roc o ardal fynyddig Eryri. Fel llawer o fandiau eraill, maent yn sgwennu caneuon a'u chwarae nhw i bobl sy weithia'n gwrando, ond yn anaml yn talu.
... more

contact / help

Contact I Fight Lions

Streaming and
Download help

Shipping and returns

Redeem code

Report this track or account

If you like I Fight Lions, you may also like: