Dim Byd o Bwys

from I Fight Lions by I Fight Lions

/

lyrics

Ceisio rhoi llafar i brofiada
Trwy gymhariaethau a throsiada
Ond sut fedra i rannu fy nheimlada
Os dwi’n teimlo dim yn y lle cynta

Ma’r gân yn wahanol
Ond mond yn gerddorol
Ailgylchu syniadau
Aileirio storiau
A gafodd eu hadrodd ganrifoedd yn ôl
Ma’r gân yn wahanol
Ond dio’m yn ddiddorol
Aileirio storiau hên

Dwi’m yn disgwyl chi wrando, na chlapio, na sefyll yn y blaen
Dim cymeradwyaeth, canmoliaeth, na, neb yn canu ‘mlaen
Sgenai’m diawl o hawl i gwyno, sgenai’m byd o bwys i ddweud
Mond geiriau gwag am hunnan barch a dihidrwydd

Rhyw gân anangerddol
Gan ddyn sy’n galw ei hun yn gerddor
Aberthu ei enaid i werthu CDs
Gan ganu rhyw eiriau sy’n meddwl dim byd

Tydi hyn ‘im yn hawdd
Na, tydi hyn ‘im yn hawdd
Sgenai ddim y ddawn i blesio pawb

credits

from I Fight Lions, released December 2, 2013

license

all rights reserved

tags

about

I Fight Lions UK

I Fight Lions are a rock band hailing from the mountains of North Wales. Like many other bands, they write songs and perform them in public places; often for applause, seldom for money.

Mae I Fight Lions yn fand roc o ardal fynyddig Eryri. Fel llawer o fandiau eraill, maent yn sgwennu caneuon a'u chwarae nhw i bobl sy weithia'n gwrando, ond yn anaml yn talu.
... more

contact / help

Contact I Fight Lions

Streaming and
Download help

Shipping and returns

Redeem code

Report this track or account

If you like I Fight Lions, you may also like: