Diwedd Y Byd

from Be Sy'n Wir? by I Fight Lions

/

lyrics

Dros dair mil o filltiroedd
I’r gorllewin gwyllt
Mae’r dyn dros yr Iwerydd yn mwytho’r glicied gyda’i fys
A draw draw yn y dwyrain
Ma na derfysg yn y dŵr
Ond ar stepan drws dy dŷ di, ma petha ‘run mor ddrwg

O jysd anadla’n ddyfn
Jysd anadla’n ddyfn
Gafal’n dyn a phaid â gadael fynd

Ma pawb yn mynd yn wallgof ar y cyd
Ella bo’i’n ddiwedd y byd
Ond cariad, dydw i’n poeni dim
Cyn belled â rwyt ti ‘fo fi’n fan hyn
Lle does na’m helynt i’n hanafu ni
Y tarannau a’r tân mond yn si
Ar y gorwel, ti’n ddiogel
Cyn belled â dy fod di’n fy mreichia i

‘Di newyn ‘rioed ‘di newid
Ond mae tewdra’n lladd mwy fyth
Felly cyfra’r caloriau, cadwa’r sos coch off dy jips
‘Sa neb ‘sio mynd yn hen
Ond ma pawb ‘sio byw am byth
Marw’n ifanc ac yn enwog, dim ond i gyflawni’r wyrth



Jysd anadla’n ddyfn
Jysd anadla’n ddyfn
Gafal’n dyn a phaid a gadael fynd

Ma pawb yn mynd yn wallgof ar y cyd
Ella bo’i’n ddiwedd y byd
Ond cariad, dydw i’n poeni dim
Cyn belled â rwyt ti ‘fo fi’n fan hyn
Lle does na’m helynt i’n hanafu ni
Y tarannau a’r tân mond yn sî
Ar y gorwel, ti’n ddiogel
Cyn belled â dy fod di’n fy mreichia i

Carchar i’r caethyddion druan
Dyna’r tâl am fod yn sâl
Ac afiechydon gaiff y meddwon
Paid cymryd dim yn ganiataol

O tydwi ddim yn dda ar hyn o bryd
Y gwir ‘di, dwi heb fod ers hir

Ma pawb yn mynd yn wallgof ar y cyd
Ella bo’i’n ddiwedd y byd
Ond cariad, dydw i’n poeni dim
Cyn belled â rwyt ti ‘fo fi’n fan hyn
Lle does na’m helynt i’n hanafu ni
Y tarannau a’r tân mond yn sî
Ar y gorwel, dwi’n ddiogel
Cyn belled â mod i’n dy freichia di

credits

from Be Sy'n Wir?, released June 15, 2018

license

all rights reserved

tags

about

I Fight Lions UK

I Fight Lions are a rock band hailing from the mountains of North Wales. Like many other bands, they write songs and perform them in public places; often for applause, seldom for money.

Mae I Fight Lions yn fand roc o ardal fynyddig Eryri. Fel llawer o fandiau eraill, maent yn sgwennu caneuon a'u chwarae nhw i bobl sy weithia'n gwrando, ond yn anaml yn talu.
... more

contact / help

Contact I Fight Lions

Streaming and
Download help

Shipping and returns

Redeem code

Report this track or account

If you like I Fight Lions, you may also like: