Dy Dalent Ar Waith

from I Fight Lions by I Fight Lions

/

lyrics

Ma’r geiria’n llifo oddi ar dy dafod di heb saib na chamgymeriad
tra dwi’n baglu dros frawddegau
Heb, heb syniad be, be dwi, dwi ‘fod i ddeud nesa
Oh, oh oh oh oh – Be ‘di’r gyfrinach, be wti’n guddiad?
Oh, oh oh oh oh – Pawb dan gyfaredd, pob brawddeg yn ddengar

Wti ar dân
Ti’n llyfn ac yn ffraeth, ‘di meistrioli dy iaith
Wti ar dân
Ti’n swyno’r ystafell, dy dalent ar waith
Wti ar dân
Pob awgrym yn bwyllog, dwi’n synnu ar yr effaith
Caiff araith byrfyfyr bach berffaith
Dy dalent di ar waith

Ti’n cynhyrfu’n lan wrth roi dy fysedd yn y tan heb bryderu dim am berygl y fflam
Ti’n chwilfrydig, pob gair yn wefredig, pob cip yn bryfoclyd
Oh, oh oh oh oh – Be ‘di’r gyfrinach, be wti’n guddiad?
Oh, oh oh oh oh – Pawb dan gyfaredd, pob brawddeg yn ddengar

Ma clwydda pur yn swnio’n wir
Drwy dy wefusa di

Ti’n slic ac yn cwic ac yn dangos dy dricia
Difaru dim byd, diferu carisma
Ti’n grefftus a’n gyfrwys yn dewis dy eiria
Dy gwmni yn aur a dy dafod yn arian

credits

from I Fight Lions, released December 2, 2013

license

all rights reserved

tags

about

I Fight Lions UK

I Fight Lions are a rock band hailing from the mountains of North Wales. Like many other bands, they write songs and perform them in public places; often for applause, seldom for money.

Mae I Fight Lions yn fand roc o ardal fynyddig Eryri. Fel llawer o fandiau eraill, maent yn sgwennu caneuon a'u chwarae nhw i bobl sy weithia'n gwrando, ond yn anaml yn talu.
... more

contact / help

Contact I Fight Lions

Streaming and
Download help

Shipping and returns

Redeem code

Report this track or account

If you like I Fight Lions, you may also like: