Storm

from Storm by I Fight Lions

/

lyrics

Does na’m byd yn y byd o bwys
Mai’n dawel braf yn nghalon y storm
Dwi ddim am boeni am ddryswch llwyr
Dim fi sydd wrth y llyw

Mae’r taranau yn bleoddio’n y nen
Fel rhuo llewod yn bell uwchben
Mae Morus y gwynt ac Ifan y glaw
Yn chwil ar y gwasgedd isel
Mae’r byd yn ddychrynllyd ar hyn o bryd
Ond mae’r helynt ‘ma’n gysur o fy ngwely clud
Sgenai’m mymryn o bryder; mewn cysur mae hyder
Dwi’n gyfarwydd ‘fo’r hunllef o hyd

Mae’r newydd yn hen erbyn hyn
Neith arwyr flodeuo ymysg y chwyn
Mae’r gwynt a’r glaw yn siwr o ddod yn pen draw
Ond mae’r haul yn anorfod hefyd

Does na’m byd yn y byd o bwys
Mai’n dawel braf yn nghalon y storm
Dwi ddim am boeni am ddryswch llwyr
Dim fi sydd wrth y llyw

Anghydfod y tonnau sy’n bygwth
Ceffylau mawr gwyn ar garlam rhwth
Ond mae ‘na ddigon o dîr rhwng y llanw a fi
Does na’m galw am gynnwrf na stŵr
Cau dy lygaid yn dynn
A gad dy feddylia suddo’n ddyfn
Ma’r glaw ar y gwydr yn siffrwd o gysur
Dwi’n gyfarwydd fo’r freuddwyd o hyd

Mae’r newydd yn hen erbyn hyn
Neith arwyr flodeuo ymysg y chwyn
Mae’r gwynt a’r glaw yn siwr o ddod yn pen draw
Ond mae’r haul yn anorfod hefyd

Does na’m byd yn y byd o bwys
Mai’n dawel braf yn nghalon y storm
Dwi ddim am boeni am ddryswch llwyr
Dim fi sydd wrth y llyw

credits

from Storm, released March 18, 2013

license

all rights reserved

tags

about

I Fight Lions UK

I Fight Lions are a rock band hailing from the mountains of North Wales. Like many other bands, they write songs and perform them in public places; often for applause, seldom for money.

Mae I Fight Lions yn fand roc o ardal fynyddig Eryri. Fel llawer o fandiau eraill, maent yn sgwennu caneuon a'u chwarae nhw i bobl sy weithia'n gwrando, ond yn anaml yn talu.
... more

contact / help

Contact I Fight Lions

Streaming and
Download help

Shipping and returns

Redeem code

Report this track or account

If you like I Fight Lions, you may also like: