Tynnu Ar Y Tennyn

from Be Sy'n Wir? by I Fight Lions

/

lyrics

Ti’m yn gaeth i’r dystiolaeth, na, ti’n rhydd
Paid cwestiynu’r hyn ti’n gredu
Pwy benderfynodd mai gwyddoniaeth ydi’r gwir?
Mae’r ddealltwriaeth dal i ledu

Paid cymhlethu’r gred

Ti’n tynnu ar y tennyn er mwyn gweld tu ôl i’r llen
Mond i ddarganfod bod y dyn mawr ‘mond yn llais bach yn dy ben
A phan ddaw y darganfyddiad, pan ddaw’r gwir i olau’r dydd
Ddewisi di y ffaith ta’r ffydd?

Creda’n gryf gyda dy galon fawr i gyd
A fydd na’m dadla am yr ateb
Mae popeth yna’n blaen, yn glimr ewn du a gwyn
O does na’m graddiant llwyd na lliwgar
Pwy a ŵyr pwy wnaeth y ser uwchben
Pwy a ŵyr pwy fysa’n sgwennu’r ffasiwn ffuglen
Creda’n gryf gyda dy galon fawr i gyd
Arwydd o wendid yw ansicrwydd

Paid cymhlethu’r gred

Ti’n tynnu ar y tennyn er mwyn gweld tu ôl i’r llen
Mond i ddarganfod bod y dyn mawr ‘mond yn llais bach yn dy ben
A phan ddaw y darganfyddiad, pan ddaw’r gwir i olau’r dydd
Ddewisi di y ffaith ta’r ffydd?

Ti’n tynnu ‘ry tennyn
Mae’r fflamau’n dwysáu
Ond wrth i ti losgi
‘Di’r ffydd yn cryfhau?
Wyt ti dal i gredu?
Wyt ti dal yn siŵr?
Ta oes ‘na amheuaeth
Am dy dda a dy ddrwg

credits

from Be Sy'n Wir?, released June 15, 2018

license

all rights reserved

tags

about

I Fight Lions UK

I Fight Lions are a rock band hailing from the mountains of North Wales. Like many other bands, they write songs and perform them in public places; often for applause, seldom for money.

Mae I Fight Lions yn fand roc o ardal fynyddig Eryri. Fel llawer o fandiau eraill, maent yn sgwennu caneuon a'u chwarae nhw i bobl sy weithia'n gwrando, ond yn anaml yn talu.
... more

contact / help

Contact I Fight Lions

Streaming and
Download help

Shipping and returns

Redeem code

Report this track or account

If you like I Fight Lions, you may also like: