Y Gasgen Wag

from Be Sy'n Wir? by I Fight Lions

/

lyrics

Dwi ‘di trio cadw ‘mhen yn glir
Ond ma’r dŵr o hyd yn troi yn ôl yn win
Ma ‘na ddiafol ar f’ysgwydd chwith, a diafol ar y dde
Yn deutha fi, “paid â phoeni, does ‘na’m byd o’i le”

Ond does ‘na’m ateb call
Ar waelod casgen wag
Ac wrth i’r cwrw lifo, mae’r holl feddyliau’n cilio
A dwi’n anghofio geiria’r gân

Dwi ‘di trio dod o hyd i’r gwir
Treulio dyddiau yn diddymu’r darlun ffug
Ond wrth ddad-wneud y clymau, ddaw dim ond cymlethdodau
Trwy’r gwirodydd, tydw i methu gweld yn glir

Does na’m ateb call
Ar waelod casgen wag
Ac wrth i’r cwrw lifo, mae’r holl feddyliau’n cilio
A dwi’n anghofio geiria’r gân

Tydi nghalon i’m yn lân
Ond ynddi, ti’n llwyddo’i gynnau tân
Dwi’m yn siŵr os mai’r gwin ‘ta’r wên sy’n neu fy nghoesa’n wan
Ond dwi’n gwybod bod un yn well na’r llall

Does na’m ateb call
Ar waelod casgen wag
Mae’r cwrw wedi cilio, a’r cariad ‘di dihuno
I f’atgoffa o eiria’r gân

credits

from Be Sy'n Wir?, released June 15, 2018

license

all rights reserved

tags

about

I Fight Lions UK

I Fight Lions are a rock band hailing from the mountains of North Wales. Like many other bands, they write songs and perform them in public places; often for applause, seldom for money.

Mae I Fight Lions yn fand roc o ardal fynyddig Eryri. Fel llawer o fandiau eraill, maent yn sgwennu caneuon a'u chwarae nhw i bobl sy weithia'n gwrando, ond yn anaml yn talu.
... more

contact / help

Contact I Fight Lions

Streaming and
Download help

Shipping and returns

Redeem code

Report this track or account

If you like I Fight Lions, you may also like: